Datgarboneiddio’r ystâd addysg: arolwg o’i chyflwr 

08 - 08 - 2023

Cefndir

Rydym wedi comisiynu Aecom Ltd i ddarparu asesiad sylfaen o gyflwr yr ystâd addysg yng Nghymru. Bydd yr arolwg yn cynnwys pob ysgol a choleg addysg bellach a ariennir gan y wladwriaeth. Bydd yn ein galluogi i ddatblygu trywydd carbon sero net ar gyfer pob ased. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol a cholegau i ddatgarboneiddio’r ystâd addysg ledled Cymru.

Yn achos pob elfen a all gyfrannu at ddatgarboneiddio, bydd yr arolwg yn asesu:

Ar sail y canlyniadau, caiff cynnig buddsoddi lefel uchel ei ffurfio ar sut i gyflwyno datrysiad carbon isel (fesul elfen) gam wrth gam, sy’n sicrhau gwerth am arian. Bydd hyn ar gael ar gyfer pob adeilad.

Bydd arolygon peilot yn cael eu cynnal cyn y prif arolygon ym mis Medi 2023. Cânt eu cymeradwyo mewn ymgynghoriad â Chonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru.

https://www.llyw.cymru/datgarboneiddior-ystad-addysg-arolwg-oi-chyflwr

« Yn ôl i newyddion