Mae Cyngor Gwynedd, mewn partneriaeth â’r elusen cefnogi pobl ifanc Gisda, yn falch o gyhoeddi bod gwaith adeiladu bellach ar droed i adnewyddu hen adeilad Natwest a swyddfeydd Gisda yng Nghaernarfon.
Bwriad prosiect Lle Da, sydd werth dros £1miliwn, yw adfywio’r adeiladau rhestredig gradd II yng nghanol y dref i ddarparu llety a chanolfan amlbwrpas i bobl ifanc fregus.
Mae buddsoddiad o dros £750,000 gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi mynd at gefnogi’r prosiect, er mwyn trawsnewid yr adeiladau i mewn i bedwar o fflatiau, yn ogystal â darparu gwell cyfleusterau hyfforddi a swyddfeydd newydd i Gisda.
Wedi’i gefnogi gan staff Gisda, bydd Lle Da yn cynnig amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc rhwng 16-25 fyw yn annibynnol, tra hefyd yn darparu hyfforddiant iddynt gymryd y camau nesaf mewn bywyd.
Bydd GISDA hefyd yn ymestyn eu caffi hyfforddi presennol i gefnogi mwy o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau i wella eu cyfleoedd am swyddi i’r dyfodol.
Disgwylir i Lle Da cael ei gwblhau yn gynnar yn 2024. Mae’r prosiect yn rhan o ymdrech ehangach gan Gyngor Gwynedd i fynd i’r afael â digartrefedd yn y sir trwy’r Cynllun Gweithredu Tai.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:
“Mae’n galonogol iawn gweld bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar y safle hwn. Mae’r prosiect yn gam hanfodol ymlaen yn ein hymdrechion i gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd yng Ngwynedd.
“Nid yn unig y bydd y safle newydd yn cynnig llety diogel i bobl ifanc fregus a’u cefnogi ar y llwybr i ddyfodol gwell, bydd hefyd yn dod ag adeilad gwag, amlwg yng nghanol Caernarfon yn ôl i ddefnydd i'r gymuned leol.
“Rydym yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â Gisda i wireddu’r prosiect cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar fywydau pobl ifanc Gwynedd.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Gisda, Siân Elen Tomos:
“Rydym yn falch iawn o'r prosiect hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at symud i'n hwb cymunedol i bobl ifanc yn fuan i’r dyfodol.
“Ein nod yw cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o ddarparu bwyd, cyngor, cefnogaeth, a chyfleoedd i bobl ifanc, a chreu effaith gadarnhaol yn ein cymuned. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall Awdurdod Lleol, Llywodraeth, a sefydliad trydydd sector weithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o’u hadnoddau ac arbenigedd, er budd y rhai rydym yn eu gwasanaethu.
“Trwy ein cydymdrechion, byddwn yn gallu darparu pedwar cartref newydd, ynghyd ag ystod o wasanaethau cefnogol i bobl ifanc Gwynedd. Edrychwn ymlaen at gydweithio â phartneriaid, busnesau lleol, pobl ifanc, a’r gymuned i lunio’r cyfleuster newydd hwn a diwallu anghenion y rhai rydym yn eu cefnogi.”
« Yn ôl i newyddion