Abertawe yn gwneud cynnydd ar uchelgeisiau sy'n cyfrif 

20 - 12 - 2022

Dywedwyd wrth Gyngor Abertawe mewn cyfarfod fod cryn gynnydd yn cael ei wneud ar gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Abertawe wyrddach, mwy ffyniannus a bywiog ar gyfer yr 21ain ganrif.

Gan adeiladu ar straeon llwyddiant fel yr Arena newydd gwerth £135m yn Abertawe, buddsoddiad o £150m mewn ysgolion newydd a £6.5m ar gyfer ardaloedd chwarae ym mhob cymuned a'r fargen newydd gwerth £750m ar gyfer canol y ddinas, disgwylir i'r gwaith o drawsnewid y ddinas gyflymu yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, y cafwyd cynnydd eisoes ar brosiectau fel trawsnewid gerddi Sgwâr y Castell, adnewyddu glan môr y Mwmbwls ac ehangder Bae Abertawe a chyflwyno atyniad cyffrous newydd i ymwelwyr.

Meddai, "Mae Abertawe bob amser wedi bod yn ddinas o uchelgais ond mae hi bellach yn ddinas cyflawni - yn seiliedig ar flaenoriaethau pobl."

Mae adroddiad i'r cyngor yn tynnu sylw at y camau gweithredu a gymerwyd yn y 100 niwrnod diwethaf i gefnogi ymrwymiadau polisi'r awdurdod. Maent yn cynnwys:

·       Gwneud gwaith gwerth £750m i drawsnewid canol y ddinas a ddechreuodd gyda'r arena lle gwelwyd cynnydd ar brosiectau'n amrywio o gais cynllunio cytunedig ar gyfer Sgwâr y Castell, trafodaethau parhaus ar rôl newydd ar gyfer safle Debenhams a'r gwaith sy'n dechrau ar hwb y llyfrgell yng nghanol y ddinas yn hen siop BHS.

·       Cyhoeddi consortiwm rhyngwladol i ddarparu hwb tanwydd fel rhan o brosiect Eden Las.

·       Cynnydd ar atyniad Skyline Mynydd Cilfái.

Mae cymunedau lleol Abertawe hefyd wedi elwa o:

·       Gefnogaeth i aelwydydd cymwys er mwyn iddynt hawlio amrywiaeth o daliadau cymorth costau byw ychwanegol gan Lywodraeth Cymru

·       Cefnogaeth ar gyfer mwy na 120 o brosiectau cymunedol

·       Ardaloedd chwarae newydd ym mhob cymuned, drwy'r Gronfa Adfywio Economaidd flaengar.

Dywedodd y Cyng. Stewart fod yr ymrwymiadau polisi'n cwmpasu cyfnod o bum mlynedd hyd at 2027 a diben y ffocws ar gyflawni cynnydd yn y 100 niwrnod cyntaf oedd creu momentwm i gyflawni'r prosiectau sydd o'r pwys mwyaf.

"A thrwy fuddsoddi mewn ynni gwyrdd, tyfu'n mannau gwyrdd a chroesawu pobl newydd, buddsoddiad newydd a syniadau newydd, gallwn edrych ymlaen at adeiladu dyfodol gwell."

 

« Yn ôl i newyddion