Sir y Fflint yn croesawu’r campws ysgol cyntaf i gael ei ddarparu gan WEPCo yng Nghymru 

20 - 12 - 2022

Mae cwmni Robertson Group ar fin darparu’r Ysgol gyntaf yng Nghymru trwy WEPCo (Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru), gan ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru ar ôl cyrraedd terfyn ariannol yr wythnos ddiwethaf. 

Cafodd cwmni Robertson Construction North West ei ddewis fel partner adeiladu ar gyfer Campws Mynydd Isa yn Sir y Fflint, yna bydd Robertson Facilities Management yn darparu’r gwasanaethau rheoli cyfleusterau ar ôl i’r adeilad gael ei gwblhau ar ddechrau mis Tachwedd 2024. 

Bydd y Campws deulawr newydd, a fydd yn cael ei adeiladu ar safle Ysgol Uwchradd Argoed ym Mynydd Isa, yn darparu rhaglen addysgol i ddisgyblion 3 i 16 oed yn Sir y Fflint.  Gydag arwynebedd llawr mewnol gros o 10,507m², bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn dal i fod ar wahân ond yn gweithredu mewn un adeilad gan rannu rhai cyfleusterau. 

Bwriedir creu cyfleusterau awyr agored i ddiwallu anghenion disgyblion meithrin, cynradd ac uwchradd.  Bydd lle i 43 disgybl meithrin, 600 disgybl cynradd a 700 disgybl uwchradd.  Bydd gan yr ysgolion cynradd ac uwchradd gyfleusterau darpariaeth ag adnoddau penodol ar gyfer iaith a lleferydd a bydd yr ysgol uwchradd yn elwa ymhellach o ddarpariaeth ag adnoddau arbennig ar gyfer Cyfathrebu Cymdeithasol gyda lle i 20 o ddisgyblion. 

Mae’r gwaith ar gyflawni’r Campws eisoes yn mynd rhagddo. 

Bydd yr ysgol yn cyflawni sgôr BREEAM ardderchog a bydd yn garbon sero net pan fydd yn agor.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Bydd y gwaith moderneiddio hwn sy’n fawr ei angen i’r ysgol a’r adeilad newydd yn cael ei wneud i’r safon uchaf, a bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd dysgu gorau ar gyfer ein plant.  Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a’n pobl ifanc. Rydym ni’n parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i’n holl ddysgwyr.  Mae’n wych gweld y gwaith adeiladu ar gyfer y prosiect cyffrous hwn yn mynd rhagddo.”

Dywedodd Elliot Robertson, Swyddog Prif Weithredwr, Robertson Group:

“Bydd trigolion Cyngor Sir y Fflint yn elwa’n fawr o’r Campws newydd hwn a fydd yn arwain at well parhad a chynnydd i ddysgwyr o 3 i 16 oed.  Mae timau Construction North West a Facilities Management y cwmni wedi bod yn gweithio’n ddiflino gyda WEPCo i gyrraedd terfyn ariannol, a bydd gwaith yn cychwyn o ddifri ar y safle dros yr wythnosau nesaf.   Mae Robertson yn falch o gael ei ddewis i fod yn gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu a’r gwasanaethau rheoli cyfleusterau parhaus wedi hynny. 

“Trwy gydol y cyfnod adeiladu byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol i ddarparu gwerth cymdeithasol ychwanegol er budd Sir y Fflint a’i thrigolion yn ystod y gwaith adeiladu ac ar ôl iddo gael ei gwblhau.  Fel busnes rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ostwng ein heffeithiau amgylcheddol ar draws ein holl weithrediadau a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i leihau a chyfyngu carbon a ymgorfforir yn ystod y gwaith adeiladu.” 

Dywedodd Christian Stanbury, Swyddog Prif Weithredwr, WEPCo:

“Dyma’r prosiect WEPCo cyntaf i gyrraedd terfyn ariannol a chychwyn ar y safle.  Bydd y prosiect hwn yn gosod meincnod ar gyfer darparu cyfleusterau addysg  yng Nghymru yn y dyfodol ac mae disgwyl iddo ddod â mwy na dim ond cyrhaeddiad academaidd i Sir y Fflint. 

“Rydym yn falch o gael Robertson Construction North West yn rhan o’n tîm cryf sydd â’r gallu i greu lleoliad dysgu cwbl ryfeddol a fydd yn dod â buddion hirdymor ychwanegol trwy ei alluoedd gweithredu carbon sero net.  Mae Campws Mynydd Isa yn rhagflaenu newid a groesawir i’r portffolio addysg Gymraeg, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos â’r tîm cyfan i wireddu blynyddoedd o waith paratoi a chynllunio.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: 

“Rwyf am i bob unigolyn ifanc gael dyheadau addysgol uchel. Fel y prosiect WEPCo cyntaf i gyrraedd terfyn ariannol a chychwyn ar y safle, rwy’n falch bod Campws Mynydd Isa yn mynd i gefnogi nifer o ddisgyblion gyda chyfleusterau o safon uchel. Mae’n wych gweld y prosiect cynaliadwy hwn a’r ffaith bod anghenion y disgyblion wrth wraidd y cyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Cadeirydd y Cyngor ac aelod ward lleol:

“Rwy’n hynod falch bod Sir y Fflint wedi cael ei dewis ar gyfer ysgol fraenaru a fydd yn cael ei hadeiladu i fanyleb mor uchel ac a fydd yn gweithredu fel ysgol garbon sero net.  Bydd yn gyfleuster addysgol rhagorol i blant o 3 i 16 oed.  Mae llawer iawn o feddwl a gwaith wedi mynd i mewn i ddylunio’r ysgol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill, aelod ward lleol:

“Bydd campws newydd Argoed yn sicrhau amgylchedd o’r radd flaenaf i ddarparu addysg i blant o Fynydd Isa, Bryn y Ball New Brighton a’r pentrefi cyfagos am 50 mlynedd i ddod.”

Aerial View - Carpark.png 

  

Aerial View - Mugas multi-use grassed area.png

 

 Mynydd Isa Campus Aerial View Artist Impression.jpg     Mynydd_External4bsmall.jpg        

 

 

« Yn ôl i newyddion