Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriad ar ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhorthcawl Poster informa 

20 - 12 - 2022

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar gynigion i sefydlu ysgol egin cyfrwng Cymraeg a darpariaeth gofal plant ar dir yn Ysgol Gynradd Porthcawl. 

Canfu gwerthusiad opsiynau mai tir ar safle presennol Ysgol Gynradd Porthcawl oedd fwyaf addas i fodloni ysgol egin a chyfleuster gofal plant.

I wneud yn iawn am y tir a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster newydd, bydd cae pob tywydd yn cael ei ddarparu yn Ysgol Gynradd Porthcawl.

Mae'r ysgol egin arfaethedig yn 'ddosbarth dechrau' gyda 30 lle meithrin cyfwerth ag amser llawn, a 30 lle Derbyn.

Y bwriad yw y byddai'r ddarpariaeth egin yn cael ei gweithredu a'i llywodraethu gan Ysgol y Ferch o'r Sgêr, a byddai disgyblion yn trosglwyddo i'r ysgol honno ym Mlwyddyn 1 er mwyn parhau â'u haddysg gynradd; hynny yw, nes bod ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei sefydlu ym Mhorthcawl fel rhan o fand sydd i ddod o'r rhaglen moderneiddio ysgolion, y mae'r Cabinet eisoes wedi'i gymeradwyo mewn egwyddor.

Bydd gan y cyfleuster gofal plant arfaethedig gapasiti ar gyfer 16 lle gofal plant llawn amser (32 lle rhan amser), ynghyd â 6 lle ar gyfer darpariaeth 0 i 2, gan gynnig gofal llawn o oed geni, o bosibl, hyd at bedair blwydd oed. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar ôl ysgol a gwyliau, er mwyn cynnig gofal cyffredinol llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Y bwriad yw y bydd y cyfleuster hwn yn cael ei weithredu gan ddarparwr preifat.

Mae Porthcawl eisoes wedi'i nodi fel lleoliad allweddol a fyddai'n elwa o ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ystyriwyd y byddai cyfleusterau o'r fath yn helpu i gefnogi'r gwaith o bontio o ofal plant i addysg ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd amcangyfrifir y bydd y ddarpariaeth newydd yn agor ym mis Ionawr 2025, os bydd y cynnig yn mynd rhagddo i'w gwblhau.

Mae'n galonogol bod y cynnig hynod gyffrous hwn yn parhau i ddatblygu.

Mae cymuned Gymraeg gref ym Mhorthcawl, a bydd yr ysgol egin newydd hon yn parhau i atgyfnerthu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y fwrdeistref sirol yn gyffredinol.

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar y nifer o bobl ifanc sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal, ac yn hanfodol, yn helpu i atgyfnerthu cysylltiadau pontio.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
« Yn ôl i newyddion