Cynaliadwyedd ac Ynni 

19 - 04 - 2021

Mae CLAW yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i fod yn rhagweithiol wrth reoli eu heiddo mewn ffordd gynaliadwy, gan wneud adeiladau'n fwy effeithlon o ran ynni a datblygu cyflenwadau adnewyddadwy.

Mae CLAW wedi llofnodi datganiad gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon yn cydnabod yr effaith y bydd newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar y dywysogaeth ac ymrwymo'r consortiwm i fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau hinsawdd sy'n newid.