Ysgol Gynradd Cwmaman 

Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Enw'r Prosiect Ysgol Gynradd Cwmaman
Lleoliad y Prosiect Ysgol Babanod Cwmaman, Ffordd Fforchaman, Aberdâr CF44 6NS
Dyddiad Cychwyn y Prosiect 13/03/2017
Dyddiad Cwblhau Ymarferol 18/07/2018
Gwerth y Contract £7,800,000
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau Syrfëwr Meintiau RhCT
Peiriannydd Strwythurol Bradley Associates
Peiriannydd Electronig/ Mecanyddol Williams Sale Partnership (WSP)
Prif Ddylunydd Morgan Sindall
Contractwr Morgan Sindall
Rheoli Adeiladu Rheoli Adeiladu RhCT
Pensaer Boyes Rees

Trosolwg

Ysgol Gynradd Gymunedol newydd ar gyfer 270 o ddisgyblion, yn cynnwys gwaith dymchwel pwll padlo, a gwaith allanol cysylltiedig gan gynnwys mynedfa newydd gydag ardal gollwng a chasglu i fysiau, maes parcio i staff ac ymwelwyr a dargyfeiriad newydd i’r cwlfer. BREAAM Ardderchog

 

Disgrifiad o'r Prosiect

Agorodd yr ysgol gynradd newydd i blant 3-11 oed yng Nghwmaman ym mis Medi 2018, gan groesawu disgyblion o hen Ysgol Babanod Cwmaman ac Ysgol Iau Glynhafod.
Mae safle'r ysgol newydd ar Heol Glanaman yn cynnwys ysgol newydd sbon, maes parcio i staff, ardal gollwng/casglu ar gyfer rhieni a disgyblion, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, caeau chwarae ac ystafell i’r gymuned.

Yn ogystal â hyn, cafodd gwaith symud ac ailfodelu'r ardal chwarae ei gwblhau yn rhan o'r prosiect. Mae'r ardal yn cael ei defnyddio'n aml gan y gymuned leol.

https://www.youtube.com/watch?v=YcobHDOd00o