Ysgol Gynradd Hirwaun 

Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Enw'r Prosiect Ysgol Gynradd Hirwaun
Lleoliad y Prosiect Ysgol Gynradd Hirwaun, Stryd Glan-Nant, Hirwaun, Aberdâr, CF44 9NF
Dyddiad Cychwyn y Prosiect 02/09/19
Dyddiad Cwblhau'r Gwaith Ymarferol 25/10/20. Cam 1 Adeilad ysgol newydd 30/04/21. Cam 2 Gwaith allanol a chyfleusterau chwarae
Gwerth y Contract £8,400,000
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau Syrfëwr Meintiau RhCT
Peiriannydd Strwythurol Bradley Associates
Peiriannydd Trydanol/ Mecanyddol WSP
Prif Ddylunydd Morgan Sindall
Contractwr Morgan Sindall
Rheoli Adeiladu Rheoli Adeiladu RhCT
Pensaer Boyes Rees / Powell Dobson

Trosolwg

Adeiladu Ysgol Gynradd newydd ar gyfer 450 disgybl gyda chyfleuster Dechrau'n Deg ar safle presennol Ysgol Gynradd Hirwaun, gan gynnwys cae chwaraeon, Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd, gwaith ffordd a gwaith tirlunio terfynol. BREAAM Excellent

Disgrifiad o'r Prosiect

Mae'r ysgol bellach yn elwa o fuddsoddiad gwerth £10.2miliwn sydd wedi gwella cyfleusterau addysg yn sylweddol. Roedd y prosiect yn cynnwys adeilad Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd yn ogystal â dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cyfleuster Dechrau'n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, maes parcio i'r staff, maes chwaraeon a mannau allanol.  

Gwnaeth y Contractwr Morgan Sindall gynnydd gwych ar ôl i'r cam adeiladu ddechrau ym mis Medi 2019, er gwaethaf heriau'r tywydd garw, BREXIT a phandemig y Coronafeirws yn 2020.
Cafodd yr adeilad ysgol newydd ei adeiladu'n barod ar gyfer croesawu staff a disgyblion ar ôl wythnos hanner tymor yr hydref yn 2020.

Yna canolbwyntiodd y contractwr ar gwblhau'r gwaith datblygu ehangach, a gafodd ei gwblhau yn ystod Ebrill 2021. Roedd hyn yn cynnwys dymchwel adeiladau presennol yr ysgol, a chwblhau'r gwaith ar yr elfennau allanol ar dir yr ysgol.