Ysgol Gymuned Tonyrefail 

Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Enw'r Prosiect Ysgol Gymuned Tonyrefail
Lleoliad y Prosiect Ysgol Gymuned Tonyrefail, Heol Gilfach, Porth CF39 8HG
Dyddiad Cychwyn y Prosiect 31/10/2016
Dyddiad Cwblhau'r Gwaith Ymarferol 21/10/20
Gwerth y contract £44,017,000
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau Chander KBS
Peiriannydd Strwythurol Opus International
Peiriannydd Trydanol/ Mecanyddol McCann's
Prif Ddylunydd Morgan Sindall
Contractwr Morgan Sindall
Rheoli Adeiladu Rheoli Adeiladu RhCT
Pensaer Boyes Rees

Trosolwg

Ysgol Gynradd ac Uwchradd newydd, adnewyddu'r Adeilad Rhestredig presennol gan gynnwys dymchwel storfeydd allanol, gwaith allanol newydd, maes parcio a gwaith tirlunio.

BREAAM Excellent

Disgrifiad o'r Prosiect

Agorodd Ysgol Gymuned Tonyrefail (ysgol 3-19 oed) ym mis Medi 2018 - gan groesawu disgyblion o Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Uwchradd Tonyrefail.  Mae'r adeilad Fictoraidd rhestredig wedi'i ailfodelu'n sylweddol, ac mae dau adeilad Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd sbon wedi'u hadeiladu - un yr un ar gyfer yr ysgol gynradd ac uwchradd.

Cafodd holl adeiladau'r ysgolion eu cwblhau erbyn Gwanwyn 2019, ac mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwaith dymchwel adeiladau'r hen ysgol uwchradd, a sefydlu maes parcio a'r caeau chwarae.

Mae'r ysgol newydd wych yn rhan o fuddsoddiad lleol ehangach gwerth £44 miliwn ym maes Hamdden ac Addysg. Mae’r buddsoddiad wedi darparu cae chwaraeon 3G 'pob tywydd' newydd yng Nghanolfan Hamdden Tonyrefail y mae modd i’r ysgol a'r gymuned ei ddefnyddio, ynghyd â chyfleusterau addysgu arbenigol ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol i'w cynnal yn y Ganolfan. 

https://www.youtube.com/watch?v=kdP79EAynLs