Ysgol Gyfun Y Pant 

Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Enw'r Prosiect Ysgol Gyfun Y Pant
Lleoliad y Prosiect Ysgol Gyfun Y Pant, Heol y Bont-faen, Pont-y-clun CF72 8YQ
Dyddiad Cychwyn y Prosiect 27/07/2015
Dyddiad Cwblhau Ymarferol 02/12/2016
Gwerth y Contract £20,685,000
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau Rhomco
Peiriannydd Strwythurol Opus International
Peiriannydd Electronig/ Mecanyddol McCann & Partners
Prif Ddylunydd Morgan Sindall
Contractwr Morgan Sindall
Rheoli Adeiladu Rheoli Adeiladu RhCT
Pensaer Boyes Rees

Trosolwg

Darparu Ysgol Gyfun ar gyfer 1400 o ddisgyblion trwy gynnal gwaith adeiladu helaeth yn ysgol bresennol Ysgol Gyfun Y Pant.

Yn cynnwys adeiladu bloc addysgu newydd, dymchwel / adnewyddu blociau addysgu presennol, ailfodelu mannau chwarae allanol, gwella mynediad i gerddwyr a cherbydau i'r ysgol a thrwyddi.
BREAAM Ardderchog.

Disgrifiad o'r Prosiect

Ym mis Ionawr 2017, symudodd disgyblion i gyfleusterau arbennig newydd Ysgol Y Pant yn dilyn gwaith ailddatblygu. Gyda chymorth gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, roedd modd i'r Cyngor fuddsoddi £24.1miliwn er mwyn gwella'r amgylchedd dysgu a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddisgyblion, staff, a chymuned Ysgol Gyfun y Pant.

Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys mannau addysgu gwyddoniaeth, celf, technoleg bwyd a dylunio a thechnoleg newydd; ystafelloedd dosbarth TGCh arbennig, darlithfa, ffreutur fodern, llyfrgell newydd, prif neuadd wych, cyfleusterau arbennig ar gyfer y chweched dosbarth, cae chwarae 3G sydd wedi'i lifoleuo ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA).

Yn allanol, cafodd yr hen lety a'r ystafelloedd dosbarth symudol eu dymchwel, a chafodd mwy o fannau chwarae awyr agored eu creu yn ystod 2018/19, gan gynnwys dau gae glaswellt ar gyfer pêl-droed a rygbi. 

https://www.youtube.com/watch?v=s5ANLocjly8