Cynllun tai newydd yn helpu i drawsnewid ward Tyisha, Llanelli 

12 - 10 - 2021

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu cymryd y cam cyffrous nesaf i drawsnewid Tyisha drwy wahodd partneriaid posibl i rannu eu gweledigaeth ar gyfer tai newydd a chreu cymuned fywiog.

Mae'n rhan o gynlluniau uchelgeisiol y cyngor i adfywio ward Tyisha ac ardal ehangach canol tref Llanelli sy'n derbyn buddsoddiad enfawr.

Mae ymarfer ymgysylltu'n gynnar â'r farchnad yn cael ei lansio sy'n rhoi cyfle i bartneriaid posibl fynegi eu diddordeb mewn gweithio gyda'r cyngor i drawsnewid yr ardal sy'n cael ei hadnabod fel 'y pedwar Tŷ', a fydd yn cael eu dymchwel yn ddiweddarach eleni.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeiladu datblygiad tai modern, defnydd cymysg sy'n diwallu anghenion y gymuned, yn ogystal â gwelliannau i gartrefi presennol a chreu cyfleusterau cymunedol a llecynnau gwyrdd i bawb eu mwynhau.

Mae'r cyngor yn gwahodd partneriaid posibl i rannu syniadau newydd ac arloesol ar y ffordd orau o gyflawni'r prosiect hwn.

Dylai unrhyw gynlluniau ystyried pwysigrwydd strategol Tyisha, gan ei fod yn darparu cyswllt pwysig rhwng canol y dref a phrosiect Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae'r cyngor am wneud Llanelli yn fan y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddo ac mae'n buddsoddi'n helaeth yng nghanol y dref drwy ail-ddefnyddio siopau gwag unwaith yn rhagor a chreu cartrefi newydd y mae mawr eu hangen.

Bydd datblygiad nodedig Pentre Awel yn rhoi Llanelli ar y map gan ddwyn ynghyd fusnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern mewn un lleoliad gwych ar hyd arfordir.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, cadeirydd grŵp llywio Tyisha a'r aelod cabinet dros dai:

“Mae'r broses ymgysylltu'n gynnar â'r farchnad yn gam tuag at ein cynlluniau i adfywio Tyisha; cynllun unigryw sydd â'r bwriad o drawsnewid y ward gyfan. Mae trigolion wedi dweud wrthym beth sydd ei angen a'i eisiau arnynt o Dyisha ac rwy'n falch iawn ein bod ni bellach mewn sefyllfa i ddechrau cyflawni'r nodau uchelgeisiol hyn.

“Mae gan Dyisha nifer o heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ond rwy'n gwybod bod y gymuned yn gryf a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gyda chymorth gan drigolion, busnesau a'n partneriaid gallwn roi ein cynlluniau uchelgeisiol ar waith i greu cymuned gynaliadwy.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau uchelgeisiol, modern a blaengar y bydd partneriaid posibl yn eu cyflwyno i ni.”

Mae'r cyngor hefyd yn gwneud gwaith i asesu dyfodol hen safle ysgol Copperworks ond nid yw wedi'i gynnwys yn y broses hon o Ymgysylltu'n Gynnar â'r Farchnad. Bydd unrhyw gynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd hanesyddol yr adeilad yn ogystal â'i safle amlwg yn y gymuned.

Mae'r broses ymgysylltu'n gynnar â'r farchnad yn rhan o brosiect Trawsnewid Tyisha y cyngor sy'n ceisio adfywio'r ardal drwy gynyddu diogelwch cymunedol, datblygu tai a chyfleusterau cymunedol a gwella'r amgylchedd.

Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau allweddol gan gynnwys yr heddlu a Chyngor Tref Llanelli i ysgogi'r cynlluniau adfywio, ac mae grŵp llywio cymunedol wedi'i sefydlu.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y ddogfen ymgysylltu'n gynnar â'r farchnad, ewch i https://www.sirgar.llyw.cymru/tyisha.

« Yn ôl i newyddion